Wedi coladu gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru
Dilynwch y ddolen hon i lawrlwytho’r ddogfen.
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys casgliad o sgyrsiau a gweithdai yng nghyfres o weithdai Adeiladu gofal a chymorth gyda’n gilydd a drefnwyd gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r llyfryn hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu i wneud mwy, a chydgynhyrchiad gwell, o fewn eich rôl. Rydym i gyd eisiau gwneud pethau’n well ac yn wahanol ond weithiau gallwn wynebu rhwystrau neu deimlo’n ansicr os ydym ar y llwybr cywir. Mae’r llyfryn hwn wedi’i gynllunio i gynnig cyngor ymarferol ac atebion gan y bobl gyda phrofiad o gydgynhyrchu.
I bwy mae’r llyfryn hwn?
Sefydliadau ac unigolion sydd ar lwybr cydgynhyrchu ac sy’n awyddus i yrru syniadau a phrosiectau yn eu blaenau, fel:
- Pobl sy’n gweithio mewn sefydliadau yn y sectorau statudol, annibynnol neu drydydd sector: gallech weithio ym maes tai, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol neu unrhyw leoliad sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol.
- Rheolwyr a chomisiynwyr sy’n edrych ar atebion arloesol ar gyfer gofal a chymorth ac sydd eisiau archwilio sut y gellir gwneud hyn.
- Grwpiau cymunedol neu unigolion sydd eisiau bod ynghlwm â llywio gofal a chymorth.
- Grwpiau cymunedol neu unigolion sydd wrthi’n ceisio sefydlu rhywbeth i helpu grŵp o bobl, er enghraifft, caffi i ofalwyr.
Beth sydd yn y llyfryn hwn?
- Beth yw cydgynhyrchu? A beth mae’n ei olygu?
- Pam mae gweithio’n gydgynhyrchiol yn bwysig?
- Sut galla’i weithio’n gydgynhyrchiol?
- Cyngor ac argymhellion ar ba agweddau ac ymddygiad sy’n hybu cydgynhyrchu da
- Datblygiad a chyfleoedd yn y dyfodol
- Rhagor o adnoddau