Manifesto – elections 2021

We have put together a manifesto in the lead up to the 2021 elections, and sent it to the leaders of the parties. Here is the text of it below, and also as a 2-pager pdf to download, and – most exciting of all – as a zine format to print!

Zine how to: mark the creases by folding the sheet into 8, cut along the dotted line, fold the four middle panels out, and fold the zine onto itself to make it into a tiny book.

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Pawb ynghyd

 

Llythyr agored at sylw’r llywodraeth nesaf ynghylch cynnwys dinasyddion a chymunedau yn y broses o gydgynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, oddi wrth Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, sefydliad dielw annibynnol sy’n gweithio tuag at Gymru decach a mwy cynaliadwy, lle mae gan bawb lais. Mawrth 2021

 

Yng Nghymru mae gennym fframwaith deddfwriaethol ysbrydol a gweledigaethol sy’n gosod cyfeiriad ein taith ar gyfer sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus, sy’n canolbwyntio ar lesiant, ac sydd â’r nod o sicrhau y diwellir anghenion pobl; mae ein cymunedau’n gadarn ac yn gydnerth; ac mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon, effeithiol a pherthnasol.

Rydym wedi cychwyn ar y daith hon, ac mae cynnydd ar y gweill. Ond mae gwireddu’r weledigaeth hon yn araf, ac yn ogystal, nid yw’r uchelgais i gynnwys pobl a chymunedau’n cael ei wireddu ar y raddfa angenrheidiol er mwyn cael effaith fesuradwy ar lesiant pawb. Mae’n cymryd amser i addasu o ffordd o weithio a seilir ar werthoedd, i newid ymddygiad a diwylliant sefydliadol, i feithrin cysylltiadau cydweithredol, ac i ystyried pobl a chysylltiadau fel asedau sydd yn sylfaen i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus cadarn.

Yn hanesyddol, mae diwylliant gwasanaethau cyhoeddus wedi tueddu “gwneud i” a “gwneud ar gyfer” pobl, sy’n disodli teimlad dinasyddion eu bod yn gyfrwng, ac yn lleihau capasiti a chyfalaf cymdeithasol cymunedau. Ond yn ystod y cyfnod hwn o bwysau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cynyddol, nid yw gwasanaethau cyhoeddus bellach, wrth eu hunain, yn darparu’r atebion sydd eu hangen i fodloni anghenion ein trigolion. Mae methu â chefnogi’r unigolion mwyaf bregus yn ein plith yn enwedig, yn cyfrannu at erydu’r ffydd sy’n bodoli rhwng dinasyddion a’r wladwriaeth.

Mae pandemig Covid-19 wedi ysgogi mathau newydd o ymgysylltiad rhwng dinasyddion, ac wedi creu mwy o gydnabyddiaeth ar gyfer sgiliau ac adnoddau nad oedd digon o werthfawrogiad na defnydd ohonynt yn gynt yn ein cymunedau. Mae heriau cymhleth a phroblemau difrifol yn golygu bod ein sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn gorfod mabwysiadu dulliau gweithio gwahanol a mwy clyfar. Os taw’r bwriad yw “dychwelyd yn well”, mae angen i’r wladwriaeth ein galluogi, a diwylliant ym maes gwasanaethau cyhoeddus o “wneud gyda” phobl, sy’n parhau i roi ar waith ein Deddfau datganoledig ac sy’n sicrhau taw llais ein dinasyddion sydd wrth galon hyn oll.

 

Mae’r bwlch o safbwynt gweithredu, sydd angen ei bontio o hyd, yn deillio o ddiffyg dealltwriaeth gyffredin a chyson ar draws sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, o ran pryd, pam a sut i gefnogi a galluogi dinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau i gyfrannu at ddull o weithio a seilir ar gydgynhyrchu.

Pryd: ar gyfer heriau cymhleth a phroblemau difrifol, sydd yn y bôn, yn methu cael bwled arian, ateb amlwg, neu fodelau arfer orau; lle mae datblygiad ac arloesi’n allweddol wrth lunio’r atebion; a lle defnyddir proses o wneud penderfyniadau ar y cyd fel yr unig ffordd i sicrhau fod yr atebion yn berthnasol ac effeithiol.

Pam: oherwydd yn yr amgylchfyd cyfredol o leihad mewn adnoddau cyhoeddus a galw cynyddol, mae egwyddor cydgynhyrchu a chynnwys dinasyddion yn cynnig dull o weithio effeithiol i ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol a chynaliadwy sy’n arwain at well profiad a chanlyniadau gwell i bawb.

Sut: trwy sicrhau cynrychiolaeth ac amrywiaeth, a chael hyd i’r ffyrdd cywir i gynnwys lleisiau nas clywir yn aml; trwy ddysgu gweithio mewn partneriaeth a meithrin cysylltiadau hirdymor a dibynadwy; trwy wrando, dangos gostyngeiddrwydd a thryloywder a dysgu mewn amser real; trwy ganolbwyntio ar ganlyniadau a’r effaith ar fywydau a llesiant pobl, nid yn unig ar allbwn a phethau sy’n hawdd eu cyfrif.

Yn ogystal â dyletswydd foesol a moesegol i gynyddu cyfrwng dinasyddion, teimlad o reolaeth a thrwy hynny eu llesiant, mae rheidrwydd economaidd yn bodoli ynghyd â’r gost uchel o beidio troi gwasanaethau cyhoeddus yn rhai mwy effeithiol, mwy cynaliadwy a mwy perthnasol trwy ddefnyddio adnoddau a chapasiti cymunedau. Er y byddai’r buddsoddiad yn gymedrol o safbwynt ariannol, yr hyn sydd ei angen yn anad dim yw ymrwymiad o ran ffocws ac egni.

 

I’n Gweinidogion ac Aelodau’r Senedd, mae hyn yn golygu llunio’r cyd-destun:

  • Ymrwymo i gydgynhyrchu a chyfraniad fel blaenoriaeth drawsbynciol i sicrhau nad yw’n dioddef oherwydd gwleidyddiaeth bleidiol.
  • Sefydlu hyrwyddwr fydd yn gyfrifol am gydgynhyrchu a chyfraniad fel rhan o’i bortffolio gweinidogol.
  • Bod yn gyson, a chyd-fynd â deddfwriaeth newydd o ran yr un ffyrdd o weithio, i osgoi cyfarwyddyd gwrthdrawiadol neu groes i’w gilydd o safbwynt Deddfau gwahanol.
  • Gosod y dôn a pharhau i ganolbwyntio ar y newid angenrheidiol mewn ymddygiad a diwylliant sy’n sylfaen i’r trawsnewid.
  • Creu’r amodau sydd eu hangen i brif-ffrydio ac ymwreiddio arfer dda yn adeiledd gwasanaethau cyhoeddus.

 

I’n gweision sifil a chyhoeddus, i sefydliadau trydydd sector ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â chyflenwi gwasanaethau, mae hyn yn golygu rhannu grym a chyfrifoldeb:

  • Datblygu’r gallu a’r hyder i arfer cydgynhyrchu a chyfraniad; deall pryd a sut i newid o “gwneud i/ar gyfer” i “wneud gyda”.
  • Sicrhau bod ymrwymiad a chaniatâd i weithredu’n rhan annatod o’r sefydliad; normaleiddio newid o ran ymddygiad a diwylliant, a mynd i’r afael â rhwystrau systemig.
  • Cynyddu’r cydweithio a’r cydweithredu ar draws silos trefniadaethol, i osgoi dyblygu a gwastraffu egni, ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfraniad dinasyddion a chymunedau.
  • Cychwyn sgwrs arwyddocaol gyda dinasyddion a chymunedau, yn enwedig unigolion agored i niwed a lleisiau nas clywir yn aml; meithrin dealltwriaeth a pharch cyffredin, a chynnwys pobl o’r cychwyn cyntaf fel rhan o’r broses o ddatrys problemau.
  • Chwarae rôl fel galluogwr ac i gefnogi creadigrwydd, hyblygrwydd ac egni anhygoel cymunedau heb geisio meddiannu neu sefydliadu’r atebion; cydnabod fod cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yn cyfrannu cryfderau sy’n gweddu i’w gilydd.

 

I grwpiau cymunedol a dinasyddion, bydd yn golygu cael lleisio barn ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau, a chael mynediad at y gefnogaeth gywir pan fo’i hangen, a bod yn rhan o’r newid rydym yn awyddus i’w weld.

Hyd yma, mae’r arfer o roi ar waith egwyddorion cydgynhyrchu a chyfraniad wedi dibynnu ar unigolion sy’n denu sylw trwy eu harferion disglair, a dilyn y trywydd hwnnw hyd eithaf eu gallu a’u grym, a’r rhwystrau systemig sy’n bodoli ar y daith. Ond gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu cyd-destun cefnogol, gall yr arferion hyn gyrraedd mas critigol trawsnewidiol; a gyda’n gilydd gallwn greu Cymru decach a mwy cynaliadwy, lle mae gan bawb lais.

 

Siaradwch gyda ni: [email protected]

Gellir dysgu mwy yma: https://copronet.cymru

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *