Mae Mesur y Mynydd yn fenter a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Adroddiad Rheithgor Dinasyddion
Digwyddodd y Rheithgor Dinasyddion rhwng 24 a 27 Medi 2018. Drafftiwyd yr adroddiad gan Katie Cooke, Rheolwr Prosiect Mesur y Mynydd a Rachel Iredale, Darllenydd mewn Ymgysylltu Cyhoeddus ym Mhrifysgol De Cymru, ar ran y Rheithgor, ac fe’i cymeradwywyd gan bob un o’r Rheithwyr. Cwblhawyd yr adroddiad hwn ym mis Ionawr 2019 a’i gyhoeddi gan Brifysgol De Cymru.
Dyma adroddiad am y Rheithgor Dinasyddion a ddigwyddodd gyda 14 dinesydd o Gymru ym mis Medi 2018. Dros bedwar diwrnod, archwiliodd y rheithwyr y cwestiwn Beth sydd wir o bwys mewn gofal
cymdeithasol i unigolion yng Nghymru? Bu iddynt wrando ar dystiolaeth, holi cwestiynau a chywain
cyfres o argymhellion. Mae’r argymhellion yn tynnu sylw at agweddau pwysig o ofal cymdeithasol. Nhw
yw’r man cychwyn i broses ar gyfer Llywodraeth Cymru, a sefydliadau eraill sy’n gweithio yn y sector, i
sicrhau fod pobl sy’n cael mynediad i ofal a chefnogaeth yn cael profiadau cadarnhaol.
Mae’r Adroddiad Rheithgor Dinasyddion llawn ar gael ar wefan Mesur y Mynydd: http://mtm.wales/adnoddau.
Adroddiad Terfynol
Katie Cooke, Rachel Iredale, Richard Williams, Neil Wooding (2019)Mesur y Mynydd: Beth sydd wir o bwys mewn gofal cymdeithasol i unigolion yng Nghymru? Pontypridd: Prifysgol De Cymru.
Mae’r Adroddiad Terfynol llawn ar gael ar wefan Mesur y Mynydd: http://mtm.wales/adnoddau.