Mae’r cofnod hwn yn ategu’r pecyn Cymorth Mesur yr hyn sy’n Bwysig, sydd ar gael yma: https://gwyb.copronet.cymru/mesur-yr-hyn-syn-bwysig/
Canlyniad yr arf ar-lein Mesur yr hyn sy’n Bwysig: Cod AFI
Disgrifiad technegol
Rydych am fabwysiadu dull o weithio cyfranogol a chydgynhyrchiol, tuag at werthusiad ffurfiannol neu werthusiad proses, y gellir ei gyflawni’n weddol gyflym a rhwydd.
Rhestr Termau
Dulliau cyfranogol: sy’n cynnwys rhanddeiliaid rhaglen neu bolisi yn y broses gwerthuso. (Ffynhonnell: Better Evaluation)
Dulliau cydgynhyrchiol: sy’n rhannu grym a chyfrifoldeb gyda rhanddeiliaid trwy gydweithio mewn cysylltiadau cydradd, dwyochrog a gofalgar. (Ffynhonnell: Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru)
Gwerthusiadau Ffurfiannol: sy’n asesu dichonolrwydd a photensial rhaglen, polisi neu ymyrraeth.
Gwerthusiadau Proses: sy’n asesu pa mor effeithiol mae rhaglen, polisi neu ymyrraeth yn cael neu wedi cael ei weithredu.
Dulliau casglu data
Gwerthusiad 360 Gradd
Amser: isel / Cost: isel
Mae Gwerthusiad 360 gradd yn casglu barn ar gwestiwn penodol o safbwyntiau niferus, trwy ofyn am adborth gan nifer fach o unigolion sy’n cynrychioli grŵp ehangach o randdeiliaid. Gall hyn gynnwys staff, rheolwyr, aelodau’r gymuned neu fel arall.
Ewch i dudalen 30 Llawlyfr ‘Think Local Act Personal’ ‘Does it Work? – A guide to evaluating community capacity initiatives’.
Templed Cofnodi Newid
Amser: isel / Cost: isel
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae Cofnodion Newid yn cofnodi newidiadau a wneir i brosiect (a’r gwahaniaeth a wneir ganddynt) wrth i brosiect ddatblygu.
Darperir Templed Cofnodi Newid yn rhad ac am ddim gan Evaluation Support Scotland.
Cyfeirwyr Cymunedol
Amser: cymedrol / Cost: cymedrol
Mae Cyfeirwyr Cymunedol yn deillio o’u cymunedau ac yn gweithredu fel ymchwilwyr yn y gymuned, ac yn gweithio gyda’r cyhoedd (neu unrhyw grŵp o randdeiliaid) i ddarganfod eu barn ar gwestiwn penodol.
Ewch at dudalen 28: Llawlyfr ‘Think Local Act Personal’ ‘Does it Work? – A guide to evaluating community capacity initiatives.’