Mae’r cofnod hwn yn ategu’r pecyn Cymorth Mesur yr hyn sy’n Bwysig, sydd ar gael yma: https://gwyb.copronet.cymru/mesur-yr-hyn-syn-bwysig/
Canlyniad yr arf ar-lein Mesur yr hyn sy’n Bwysig: Cod AFJ
Disgrifiad technegol
Rydych am fabwysiadu dulliau gwaith cyfranogol a chydgynhyrchiol, ac yn awyddus i ymrwymo amser ac adnoddau er mwyn casglu tystiolaeth gyfoethog a manwl.
Rhestr Termau
Dulliau cyfranogol: sy’n cynnwys rhanddeiliaid rhaglen neu bolisi yn y broses gwerthuso. (Ffynhonnell: Better Evaluation)
Dulliau cydgynhyrchiol: sy’n rhannu grym a chyfrifoldeb gyda rhanddeiliaid trwy gydweithio mewn cysylltiadau cydradd, dwyochrog a gofalgar. (Ffynhonnell: Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru)
Gwerthusiadau Ffurfiannol: sy’n asesu dichonolrwydd a photensial rhaglen, polisi neu ymyrraeth.
Gwerthusiadau Proses: sy’n asesu pa mor effeithiol mae rhaglen, polisi neu ymyrraeth yn cael neu wedi cael ei weithredu.
Dulliau casglu data
Adrodd ar Ddeilliannau Cydweithredol
Time: high / Cost: high
Amser: uchel / Cost: uchel
Mae Adroddiad ar Ddeilliannau Cydweithredol yn ddull cyfranogol sy’n ‘olrhain’ perfformiad rhaglen trwy ddefnyddio nifer o elfennau o dystiolaeth, y mae arbenigwyr technegol a rhanddeiliaid y prosiect yn cyfrannu atynt.
Mae Adroddiad ar Ddeilliannau Cydweithredol yn rhan o ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation a cheir mwy o wybodaeth ar eu gwefan.
Hanes Arloesi
Amser: cymedrol / Cost: cymedrol
Mae Hanes Arloesi’n cyfuno profiad rhanddeiliaid y prosiect er mwyn datblygu cofnod a gytunir o sut y datblygwyd arloesi, er mwyn hysbysu ymdrechion arloesi’r dyfodol.
Mae Hanes Arloesi’n rhan o ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation a cheir mwy o wybdoaeth ar eu gwefan.
Y Newid Mwyaf Arwyddocaol
Amser: uchel / Cost: uchel
Dull gwerthuso a seilir ar gofnodi hanes yw’r Newid Mwyaf Arwyddocaol, sy’n ystyried arwyddocâd straeon a gynigir gan randdeiliaid, ac sy’n sicrhau y caiff y straeon eu rhannu gan bawb.
Mae’r Newid Mwyaf Arwyddocaol yn rhan o ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation a cheir mwy o wybodaeth ar eu gwefan.
Gwerthusiad Cyfranogol
Amser: cymedrol / Cost: cymedrol
Mae Gwerthusiad Cyfranogol yn cynnwys amrediad eang o ddulliau sy’n cynnwys rhanddeiliaid prosiect mewn prosesau gwneud penderfyniadau holl agweddau ar werthuso.
Gweler Tudalen 22 ‘Using Research Evidence – A Practical Guide’ Nesta ar gyfer manteision ac anfanteision dulliau gwerthuso cyfranogol.
Dadansoddiad o Lwybrau Effaith Cyfranogol
Amser: uchel / Cost: cymedrol
Mae Dadansoddiad o Lwybrau Effaith Cyfranogol yn cyfuno prif randdeiliaid prosiect er mwyn cyd-lunio theori o sut bydd y prosiect yn cyrraedd ei ddeilliannau arfaethedig.
Argymhellir Dadansoddiad o Lwybrau Effaith Cyfranogol fel dull i ddatblygu theori am raglen yn ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation. Mae cyfarwyddyd ymarferol ar weithredu’r dull hwn ar gael gan: The Institutional Learning and Change (ILAC) Initiative.
Gwerthuso Realistig
Amser: cymedrol / Cost: cymedrol
Dull a seilir ar theori yw Gwerthuso Realistig sy’n ystyried cyd-destun bodolaeth prosiect, er mwyn deall beth sy’n gweithio i bwy, ble a pham. Arfer ‘dull-niwtral’ yw o ran gwerthuso, a ddefnyddir ar y cyd ag unrhyw ddulliau casglu data.
Mae Gwerthuso Realistig yn rhan o ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation, a cheir mwy o wybodaeth ar eu gwefan.