Mae’r cofnod hwn yn ategu’r pecyn Cymorth Mesur yr hyn sy’n Bwysig, sydd ar gael yma: https://gwyb.copronet.cymru/mesur-yr-hyn-syn-bwysig/
Canlyniad yr arf ar-lein Mesur yr hyn sy’n Bwysig: Cod AGJ
Disgrifiad technegol
Rydych am fabwysiadu dull o weithio cyfranogol a chydgynhyrciol, i werthusiad deilliannol neu effaith, ac yn awyddus i ymrwymo amser ac adnoddau i gasglu tystiolaeth gyfoethog a manwl.
Rhestr Termau
Dulliau cyfranogol: sy’n cynnwys rhanddeiliaid rhaglen neu bolisi yn y broses gwerthuso. (Ffynhonnell: Better Evaluation)
Dulliau cydgynhyrchiol: sy’n rhannu grym a chyfrifoldeb gyda rhanddeiliaid trwy gydweithio mewn cysylltiadau cydradd, dwyochrog a gofalgar. (Ffynhonnell: Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru)
Gwerthusiad Deilliannau: sy’n asesu i ba raddau mae rhaglen, polisi neu ymyrraeth wedi cyflawni’r deilliannau arfaethedig.
Gwerthusiadau Effaith: sy’n ystyried ac yn asesu effeithiau mwy hir dymor, bwriadol neu fel arall rhaglen, polisi neu ymyrraeth.
Dulliau casglu data
Adrodd ar Ddeilliannau Cydweithredol
Amser: uchel / Cost: uchel
Mae Adroddiad ar Ddeilliannau Cydweithredol yn ddull cyfranogol sy’n ‘olrhain’ perfformiad rhaglen trwy ddefnyddio nifer o elfennau o dystiolaeth, y mae arbenigwyr technegol a rhanddeiliaid y prosiect yn cyfrannu atynt.
Mae Adroddiad ar Ddeilliannau Cydweithredol yn rhan o ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation a cheir mwy o wybodaeth ar eu gwefan.
Gwerthuso Datblygiadol
Amser: uchel / Cost: uchel
Mae Gwerthusiad Datblygiadol yn cynnig adborth amser real a chylch datblygiad parhaus. Mae’n addas yn arbennig i brosiectau mewn ardaloedd datblygol, ac mewn amgylchedd cymhleth ac ansicr.
Mae Adroddiad ar Ddeilliannau Cydweithredol yn rhan o ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation, a cheir cyfarwyddyd am ddim ar y dull ar eu gwefan.
Y Newid Mwyaf Arwyddocaol
Amser: uchel / Cost: uchel
Dull gwerthuso a seilir ar gofnodi hanes yw’r Newid Mwyaf Arwyddocaol, sy’n ystyried arwyddocâd straeon a gynigir gan randdeiliaid, ac sy’n sicrhau y caiff y straeon eu rhannu gan bawb.
Mae’r Newid Mwyaf Arwyddocaol yn rhan o ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation a cheir mwy o wybodaeth ar eu gwefan.
Mapio Deilliannau
Amser: uchel / Cost: uchel
Mae Mapio Deilliannau’n ffordd o gynllunio a gwerthuso prosiectau gyda’r nod o achosi newid cymdeithasol cynaliadwy sylweddol.
Mae Mapio Deilliannau’n rhan o ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation, a cheir mwy o wybodaeth ar eu gwefan.
Dadansoddiad o Lwybrau Effaith Cyfranogol
Amser: uchel / Cost: cymedrol
Mae Dadansoddiad o Lwybrau Effaith Cyfranogol yn cyfuno prif randdeiliaid prosiect er mwyn cyd-lunio theori o sut bydd y prosiect yn cyrraedd ei ddeilliannau arfaethedig.
Argymhellir Dadansoddiad o Lwybrau Effaith Cyfranogol fel dull i ddatblygu theori am raglen yn ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation. Mae cyfarwyddyd ymarferol ar weithredu’r dull hwn ar gael gan: The Institutional Learning and Change (ILAC) Initiative.