Mae’r cofnod hwn yn ategu’r pecyn Cymorth Mesur yr hyn sy’n Bwysig, sydd ar gael yma: https://gwyb.copronet.cymru/mesur-yr-hyn-syn-bwysig/
Canlyniad yr arf ar-lein Mesur yr hyn sy’n Bwysig: Cod BFI
Disgrifiad technegol
Rydych am fabwysiadu dull o weithio ansoddol ac ymgynghorol i werthusiad ffurfiannol neu broses y gellir ei gyflawni’n weddol gyflym a rhwydd.
Rhestr Termau
Dulliau ansoddol: sy’n canolbwyntio ar ansawdd gweithgaredd (yn aml teimladau a barn oddrychol) yn lle ansawdd (ffeithiau a ffigurau gwrthrychol).
Dulliau ymgynghorol: sy’n gwahodd pobl i rannu eu profiadau trwy ryw fath o broses ffurfiol a strwythuredig.
Gwerthusiadau Ffurfiannol: sy’n asesu dichonolrwydd a photensial rhaglen, polisi neu ymyrraeth.
Gwerthusiadau Proses: sy’n asesu pa mor effeithiol mae rhaglen, polisi neu ymyrraeth yn cael neu wedi cael ei weithredu.
Dulliau casglu data
Gwerthusiad 360 Gradd
Amser: isel / Cost: isel
Mae Gwerthusiad 360 gradd yn casglu barn ar gwestiwn penodol o safbwyntiau niferus, trwy ofyn am adborth gan nifer fach o unigolion sy’n cynrychioli grŵp ehangach o randdeiliaid. Gall hyn gynnwys staff, rheolwyr, aelodau’r gymuned neu fel arall.
Ewch i dudalen 30 Llawlyfr ‘Think Local Act Personal’ ‘Does it Work? – A guide to evaluating community capacity initiatives.’