Mae’r cofnod hwn yn ategu’r pecyn Cymorth Mesur yr hyn sy’n Bwysig, sydd ar gael yma: https://gwyb.copronet.cymru/mesur-yr-hyn-syn-bwysig/
Canlyniad yr arf ar-lein Mesur yr hyn sy’n Bwysig: Cod BGI
Disgrifiad technegol
Rydych am fabwysiadu dull o weithio ansoddol ac ymgynghorol i werthusiad deilliannol neu effaith y gellir ei gyflawni’n weddol gyflym a rhwydd.
Rhestr Termau
Dulliau ansoddol: sy’n canolbwyntio ar ansawdd gweithgaredd (yn aml teimladau a barn oddrychol) yn lle ansawdd (ffeithiau a ffigurau gwrthrychol).
Dulliau ymgynghorol: sy’n gwahodd pobl i rannu eu profiadau trwy ryw fath o broses ffurfiol a strwythuredig.
Gwerthusiad Deilliannau: sy’n asesu i ba raddau mae rhaglen, polisi neu ymyrraeth wedi cyflawni ei ddeilliannau arfaethedig.
Gwerthusiad effaith: sy’n ystyried effeithiau mwy hir dymor, bwriadol neu fel arall, rhaglen, polisi neu ymyrraeth.
Dulliau casglu data
Gwerthusiad 360 Gradd
Amser: isel / Cost: isel
Mae Gwerthusiad 360 gradd yn casglu barn ar gwestiwn penodol o safbwyntiau niferus, trwy ofyn am adborth gan nifer fach o unigolion sy’n cynrychioli grŵp ehangach o randdeiliaid. Gall hyn gynnwys staff, rheolwyr, aelodau’r gymuned neu fel arall.
Ewch I dudalen 30 Llawlyfr ‘Think Local Act Personal’ ‘Does it Work? – A guide to evaluating community capacity initiatives.’
Ymchwiliad Gwerthfawrogol
Amser: isel / Cost: isel
Mae Ymchwiliad Gwerthfawrogol yn canolbwyntio ar gryfderau prosiect, a sut y gellir cynyddu amlder y cryfderau hyn.
Mae Ymchwiliad Gwerthfawrogol yn rhan o ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation, a cheir mwy o wybodaeth ar eu gwefan.
Cyfweliad
Amser: isel / Cost: isel
Trafodaethau yw cyfweliadau a ddefnyddir i ymchwilio i deimladau, credoau ac agweddau buddiolwyr prosiect.
Darperir canllawiau am ddim ar gyfweliadau gan Evaluation Support Scotland.
Technoleg Mannau Agored
Amser: cymedrol / Cost: cymedrol
Mae Technoleg Mannau Agored yn galluogi grwpiau mawr ac amrywiol o bobl i ‘hunan-drefnu’ trafodaethau ar broblemau a phynciau sy’n bwysig yn eu barn nhw.
Gweler Tudalen 31 Llawlyfr ‘Think Local Act Personal’ ‘Does it Work? – A guide to evaluating community capacity initiatives.’
Hanesyn Personol
Amser: isel / Cost: isel
Mae Hanesion Personol yn cyflwyno hanes personol unigolyn mewn perthynas ag elfen benodol o, neu broblem sy’n gysylltiedig â phrosiect.
Gweler Tud 21 ‘Using Research Evidence – A Practical Guide’ Nesta ar gyfer manteision ac anfanteision dulliau gwerthuso cyfranogol.
Dweud Straeon
Amser: isel / Cost: isel
Mae Dweud Straeon yn ffordd greadigol o gasglu gwybodaeth am brofiadau a theimladau pobl am brosiectau.
Gweler tud 25 Llawlyfr ‘Think Local Act Personal’ ‘Does it Work? – A guide to evaluating community capacity initiatives.’
Caffi’r Byd
Amser: cymedrol / Cost: cymedrol
Mae Caffi’r Byd yn ffordd o gynnwys nifer fawr o bobl, ar draws y byd efallai, mewn ‘sgwrs’ am broblem neu brosiect penodol.
Gweler Tud 29 Llawlyfr ‘Think Local Act Personal’ ‘Does it Work? – A guide to evaluating community capacity initiatives.’