Mae’r cofnod hwn yn ategu’r pecyn Cymorth Mesur yr hyn sy’n Bwysig, sydd ar gael yma: https://gwyb.copronet.cymru/mesur-yr-hyn-syn-bwysig/
Canlyniad yr arf ar-lein Mesur yr hyn sy’n Bwysig: Cod CGI
Disgrifiad technegol
Rydych am fabwysiadu dull o weithio ansoddol ac ymgynghorol i werthusiad deilliannol neu effaith, y gellir ei gyflawni’n weddol gyflym a rhwydd.
Rhestr Termau
Dulliau ansoddol: sy’n canolbwyntio ar ansawdd gweithgaredd (yn aml teimladau a barn oddrychol) yn lle ansawdd (ffeithiau a ffigurau gwrthrychol).
Dulliau ymgynghorol: sy’n gwahodd pobl i rannu eu profiadau trwy ryw fath o broses ffurfiol a strwythuredig
Dulliau Arsylwadol: sy’n golygu arsylwi’n uniongyrchol ar bobl yn eu cynefin neu weithgaredd nodweddiadol, wrth ymyrryd cyn lleied â phosib ar yr amgylchedd neu’r gweithgaredd dan sylw.
Dulliau Arbrofol: sy’n ymchwilio i achos ac effaith trwy drin agweddau ar amgylchedd neu weithgaredd (newidynnau) mewn ffordd y gellir ei hail-adrodd dan amodau a reolir yn ofalus.
Gwerthusiadau Ffurfiannol: sy’n asesu dichonolrwydd a photensial rhaglen, polisi neu ymyrraeth.
Gwerthusiadau Proses: sy’n asesu pa mor effeithiol y mae rhaglen, polisi neu ymyrraeth yn cael, neu wedi cael ei weithredu.
Gwerthusiad Deilliannau: sy’n asesu i ba raddau mae rhaglen, polisi neu ymyrraeth wedi cyflawni ei ddeilliannau arfaethedig.
Gwerthusiad Effaith: sy’n ystyried effeithiau mwy hir dymor, bwriadol neu fel arall, rhaglen, polisi neu ymyrraeth.
Gwerthusiadau Economaidd: sy’n asesu gwerth am arian rhaglen neu ymyrraeth.
Dulliau casglu data
Map Corff
Amser: isel / Cost: isel
Teclyn yw Map Corff i hwyluso trafodaethau am dybiaethau, barn, credoau ac agweddau. Mae o gymorth yn benodol wrth ystyried deilliannau anhysbys gyda grwpiau sydd â llythrennedd cyfyngedig neu ieithoedd gwahanol.
Ceir adnoddau a chyfarwyddiadau’r Map Corff am ddim gan Evaluation Support Scotland.
Dewis Lluniau
Amser: isel / Cost: isel
Mae Dewis Lluniau’n golygu defnyddio lluniau i hwyluso trafodaeth am dybiaethau, barn, credoau ac agweddau. Mae o gymorth yn benodol wrth ystyried deilliannau anhysbys gyda grwpiau sydd â llythrennedd cyfyngedig neu ieithoedd gwahanol.
Ceir adnoddau a chyfarwyddiadau Dewis Lluniau am ddim gan Evaluation Support Scotland.
Ysgrifennu Creadigol
Amser: isel / Cost: isel
Mae Ysgrifennu Creadigol yn caniatáu i unigolyn neu grŵp fyfyrio a rhoi adborth ar unrhyw agwedd ar brosiect neu broblem, trwy gerdd, stori neu unrhyw ffurf arall. Gall fod yn hwyl ac yn therapiwtig yn ogystal â helpu fel dull casglu data.
Darperir canllawiau Ysgrifennu Creadigol am ddim gan Evaluation Support Scotland.
Pwyntiau Cyffwrdd Emosiynol
Amser: isel / Cost: isel
Defnyddir Pwyntiau Cyffwrdd Emosiynol i adnabod prif bwyntiau profiadau pobl o ran prosiect. Gellir eu defnyddio hefyd i hwyluso casglu straeon.
Ceir canllawiau am ddim ar Bwyntiau Cyffwrdd Emosiynol gan Evaluation Support Scotland.
Ffurflenni
Amser: isel / Cost: isel
Mae ffurflenni’n dod ym mhob math o feintiau a siapiau, boe yn gopi caled neu i’w rhannu ar-lein, a gellir eu defnyddio i gasglu amrediad o ddata mewn perthynas â gwerthuso prosiect.
Mae dolenni ac adnoddau am ddim ar gyfer mathau gwahanol o ffurflenni ar gael gan Charity Catalogue.
Seren Deilliannau
Amser: isel / Cost: isel
Arfau gwerthuso a seilir ar dystiolaeth yw’r Seren Deilliannau i fesur a chefnogi newid.
Datblygwyd y Seren Deilliannau gan Triangle.
Gwyriad Cadarnhaol
Amser: uchel / Cost: cymedrol
Mae Gwyriad Cadarnhaol yn gofyn i randdeiliaid prosiect adnabod ‘allanolynnau’ yn enwedig y rhai sy’n arwain at ddeilliannau cadarnhaol, er mwyn deall sut y cyflawnwyd y rhain.
Mae Gwyriad Cadarnhaol yn rhan o ‘Rainbow Framework’ Better Evaluation, a cheir mwy o wybodaeth ar eu gwefan.
Holiadur
Amser: cymedrol / Cost: isel
Rhestrau strwythuredig o gwestiynau yw holiaduron sy’n delio gyda phwnc neu broblem benodol. Gallent fod ar bapur neu gellir eu rhannu ar-lein.
Mae Sport Educate ‘Sport for Development Toolkit’ yn darparu rhai enghreifftiau o holiaduron (ar gyfer pobl ifanc) ac maent ar gael am ddim o’u gwefan.
Map Cysylltiadau
Amser: isel / Cost: isel
Mae Mapiau Cysylltiadau’n ddull syml i ddeall rhwydweithiau cyfeillgarwch, cysylltiadau a’u perthynas i ddeilliannau prosiect.
Ceir canllawiau ac adnoddau am ddim ar Fapiau Cysylltiadau gan Evaluation Support Scotland.
Wal Ludiog
Amser: isel / Cost: isel
Gellir defnyddio waliau gludiog i gasglu adborth ansoddol gan grŵp mawr o bobl.
Mae canllawiau ac adnoddau Waliau Gludiog ar gael am ddim gan Evaluation Support Scotland.
Datganiadau Ymestyn neu Gadarnhaol
Amser: isel / Cost: isel
Datganiadau syml yw Datganiadau Ymestyn neu Gadarnhaol sy’n annog trafodaeth.
Ceir canllawiau am ddim ar ddatganiadau ymestyn neu gadarnhaol gan Evaluation Support Scotland.
Arolwg
Amser: cymedrol / Cost: isel
Mae arolygon yn darparu data meintiol ar agweddau, barn, gwybodaeth ac ymddygiad gan sampl cynrychioladol o randdeiliaid prosiect a/neu fuddiolwyr.
Mae dolenni ac adnoddau am ddim ar fathau gwahanol o arolygon ar gael trwy Charity Catalogue.
Adborth Cyffyrddadwy
Amser: isel / Cost: isel
Mae Adborth Cyffyrddadwy’n golygu defnyddio ansoddau i hwyluso trafodaeth am dybiaethau, barn, credoau ac agweddau. Mae o gymorth mawr yn benodol wrth ystyried deilliannau anhysbys gyda grwpiau sydd â llythrennedd cyfyngedig, ieithoedd gwahanol neu nam gweledol.
Darperir adnoddau a chyfarwyddiadau Dewis Lluniau am ddim gan Evaluation Support Scotland.