Mae’r cofnod hwn yn ategu’r pecyn Cymorth Mesur yr hyn sy’n Bwysig, sydd ar gael yma: https://gwyb.copronet.cymru/mesur-yr-hyn-syn-bwysig/
Canlyniad yr arf ar-lein Mesur yr hyn sy’n Bwysig: Cod DFI
Disgrifiad technegol
Rydych am fabwysiadu dull o weithio ansoddol ac ymgynghorol i werthusiad ffurfiannol neu broses, y gellir ei gyflawni’n weddol gyflym a rhwydd.
Rhestr Termau
Dulliau Cyfranogol: sy’n cynnwys rhanddeiliaid rhaglen neu bolisi yn y broses gwerthuso. (Ffynhonnell: Better Evaluation)
Dulliau Cydgynhyrchiol: sy’n rhannu grym a chyfrifoldeb gyda rhanddeiliaid trwy gydweithio mewn cysylltiadau cyfartal, dwyochrog a gofalgar. (Ffynhonnell: Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru)
Dulliau ansoddol: sy’n canolbwyntio ar ansawdd gweithgaredd (yn aml teimladau a barn oddrychol) yn lle ansawdd (ffeithiau a ffigurau gwrthrychol).
Dulliau ymgynghorol: sy’n gwahodd pobl i rannu eu profiadau trwy ryw fath o broses ffurfiol a strwythuredig
Dulliau Arsylwadol: sy’n golygu arsylwi’n uniongyrchol ar bobl yn eu cynefin neu weithgaredd nodweddiadol, wrth ymyrryd cyn lleied â phosib ar yr amgylchedd neu’r gweithgaredd dan sylw.
Dulliau Arbrofol: sy’n ymchwilio i achos ac effaith trwy drin agweddau ar amgylchedd neu weithgaredd (newidynnau) mewn ffordd y gellir ei hail-adrodd dan amodau a reolir yn ofalus.
Gwerthusiadau Ffurfiannol: sy’n asesu dichonolrwydd a photensial rhaglen, polisi neu ymyrraeth.
Gwerthusiadau Proses: sy’n asesu pa mor effeithiol y mae rhaglen, polisi neu ymyrraeth yn cael, neu wedi cael ei weithredu.
Gwerthusiad Deilliannau: sy’n asesu i ba raddau mae rhaglen, polisi neu ymyrraeth wedi cyflawni ei ddeilliannau arfaethedig.
Gwerthusiad Effaith: sy’n ystyried effeithiau mwy hir dymor, bwriadol neu fel arall, rhaglen, polisi neu ymyrraeth.
Gwerthusiadau Economaidd: sy’n asesu gwerth am arian rhaglen neu ymyrraeth
Dulliau casglu data
Cyfeirwyr Cymunedol
Amser: cymedrol / Cost: cymedrol
Pobl leol yw Cyfeirwyr Cymunedol sy’n cael eu recriwtio i fod yn ymchwilwyr yn y gymuned a gweithio gyda’r cyhoedd a buddiolwyr y prosiect i ddysgu beth maen nhw am ei weld o brosiect neu wasanaeth.
Ewch at dudalen 28 y Llawlyfr ‘Think Local Act Personal’ ‘Does it Work? – A guide to evaluating community capacity initiatives.’