Mae’r cofnod hwn yn ategu’r pecyn Cymorth Mesur yr hyn sy’n Bwysig, sydd ar gael yma: https://gwyb.copronet.cymru/mesur-yr-hyn-syn-bwysig/
Canlyniad yr arf ar-lein Mesur Beth sy’n Bwysig: Cod EGI
Disgrifiad technegol
Rydych am fabwysiadu dull o weithio arsylwadol neu arbrofol i werthusiad deilliannol neu effaith, y gellir ei gyflawni’n weddol gyflym a rhwydd.
Rhestr termau
Dulliau Cyfranogol: sy’n cynnwys rhanddeiliaid rhaglen neu bolisi yn y broses gwerthuso. (Ffynhonnell: Better Evaluation)
Dulliau Cydgynhyrchiol: sy’n rhannu grym a chyfrifoldeb gyda rhanddeiliaid trwy gydweithio mewn cysylltiadau cyfartal, dwyochrog a gofalgar. (Ffynhonnell: Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru)
Dulliau ansoddol: sy’n canolbwyntio ar ansawdd gweithgaredd (yn aml teimladau a barn oddrychol) yn lle ansawdd (ffeithiau a ffigurau gwrthrychol).
Dulliau ymgynghorol: sy’n gwahodd pobl i rannu eu profiadau trwy ryw fath o broses ffurfiol a strwythuredig
Dulliau Arsylwadol: sy’n golygu arsylwi’n uniongyrchol ar bobl yn eu cynefin neu weithgaredd nodweddiadol, wrth ymyrryd cyn lleied â phosib ar yr amgylchedd neu’r gweithgaredd dan sylw.
Dulliau Arbrofol: sy’n ymchwilio i achos ac effaith trwy drin agweddau ar amgylchedd neu weithgaredd (newidynnau) mewn ffordd y gellir ei hail-adrodd dan amodau a reolir yn ofalus.
Gwerthusiadau Ffurfiannol: sy’n asesu dichonolrwydd a photensial rhaglen, polisi neu ymyrraeth.
Gwerthusiadau Proses: sy’n asesu pa mor effeithiol y mae rhaglen, polisi neu ymyrraeth yn cael, neu wedi cael ei weithredu.
Gwerthusiad Deilliannau: sy’n asesu i ba raddau mae rhaglen, polisi neu ymyrraeth wedi cyflawni ei ddeilliannau arfaethedig.
Gwerthusiad Effaith: sy’n ystyried effeithiau mwy hir dymor, bwriadol neu fel arall, rhaglen, polisi neu ymyrraeth.
Gwerthusiadau Economaidd: sy’n asesu gwerth am arian rhaglen neu ymyrraeth
Dulliau casglu data
Systemau gwybodaeth
Amser: isel/ Cost: isel
Gellir defnyddio systemau Gwybodaeth sy’n cynnwys gwybodaeth rheoli a gweinyddu cyffredinol i ddarparu data i ddangos deilliannau mwy meddal gan brosiectau.
Gweler tudalen 27 Llawlyfr ‘Think Local Act Personal’ ‘Does it Work? – A guide to evaluating community capacity initiatives.’
Data Monitro
Amser: isel / Cost: isel
Data Monitro yw’r data a gesglir yn rheolaidd trwy gamau gweithredu cyffredinol staff a gwirfoddolwyr. Gellir ei ddefnyddio i ddarparu data i ddangos deilliannau mwy meddal gan brosiectau.
Gweler tudalen 6 llawlyfr NPC ‘Stories and Numbers: collecting the right impact data.’
Data Eilaidd
Amser: isel/ Cost: isel
Data Eilaidd yw’r data a gesglir gan sefydliad arall, ond sydd ar gael i ac yn berthnasol i werthusiad.
Gweler tudalen 6 Llawlyfr NPC ‘Stories and Numbers: collecting the right impact data.’
Dadansoddi Rhwydwaith Cymdeithasol
Amser: cymedrol / Cost: isel
Mae Dadansoddi Rhwydwaith Cymdeithasol yn casglu data gwerthuso o’r rhyngweithio rhwng rhanddeiliaid prosiect a buddiolwyr ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y sefydliad.
Gweler tudalen 32 y llawlyfr ‘Think Local Act Personal’ ‘Does it Work? – A guide to evaluating community capacity initiatives.’